Cyfranogiad y Cyhoedd

Mae clefydau gwynegol hunanimiwn, fel arthritis llidol, Lupus a vasculitis, yn medru effeithio menywod yn ystod eu blynyddoedd atgenhediol. Mae’r ymchwiliaeth yma’n anelu i ddarganfod beth sydd angen ar fenywod yn y Deyrnas Unedig sydd â clefydau gwynegol hunanimiwn i helpu wella eu lles.  Mi fydd yr ymchwil yn helpu ni I ddarganfod pa fath o gymorth sydd ar gael yn barod i’r a sut gall hyn gael ei wella.

Mae gennym ni gyfleoedd i’r cyhoedd gyfrannu i’r ymchwil i:

  • Fenywod sydd wedi dioddef o unrhyw fath o glefyd gwynegol hunanimiwn pan oedden nhw rhwng 18-49 mlwydd oed, gan gynnwys Rheumatoid Arthritis, Lupus, Idiopathic Juvenile Arthritis, Psoriatic Arthritis, Vasculitis, Ankylosing Spondylitis, Sjogren’s Syndrome.  
  • Unigolion sydd â aelod o’r teulu sydd wedi dioddef o glefyd gwynegol hunanimiwn yn ystod y cyfnod pan oeddent yn ceisio dechrau teulu neu yn gofalu am blant ifanc.

Rydyn ni’n edrych am ddau berson i ymuno â’r tim ymchwil ar gyfer ys Astudiaeth STAR. Bydd angen i’r person yma fynychu cyfarfodau ymchwil yng Nghaerdydd (dau neu dri dros y chwe mis nesaf).  Byddwn ni’n cysylltu gyda chi o bryd yw gilydd rhwng cyfarfodydd hefyd i ofyn am eich cyngor ar rai materion.

Mae rhaid i chi fyw yn y Deyrnas Unedig gyda modd i gymudo i Gaerdydd.  Medrwn ni eich talu chi am eich amser ac eich costau teithio.

I ymgeisio am y rôl yma, rydym am ofyn i chi ysgrifennu disgrifiad byr o’ch hyn (250 eiriau), yn esbonio pa brofiadau sydd gennych sydd yn berthnasol i’r rôl hon. Os oes diddordeb gennych, danfonwch e-bost i STARfamilystudy@cardiff.ac.uk erbyn y 1af o Ragfyr 2016 os gwelwch yn dda.

Mae gennym ni rhagor o gyfleuon i aelodau o’r cyhoedd cyfrannu i’r prosiect:

  • Rydym yn edrych am bobl i ymuno gyda’n panel ar gyfer y cyhoedd i gynnig adborth ar syniadau ac sut i gysylltu gyda’r cyhoedd wrth i’r prosiect fynd ymlaen.  Gall hyn gael ei wneud ar lein neu dros y ffôn, felly does dim angen teithio i Gaerdydd.
  • Rydym hefyd yn edrych am bobl i ddod i ei’n cyfarfod ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghaerdydd ar y 25ain o Ionawr 2017 i gyfrannu syniadau bellach.

Plis cysylltwch gyda ni os mae gennych chi diddordeb yn unrhyw un o’r cyfleoedd uchod.  Os oes unrhyw cwestiynnau gyda chi, plis anfonwych e-bost i STARfamilystudy@cardiff.ac.uk neu gallwch chi galw ni ar 029 20687809