The STAR Family Study: STarting a family when you have an Autoimmune Rheumatic disease

Welcome to the STAR Family Study website

Mae clefydau gwynegol hunanimiwn yn cynnwys nifer o glefydau sy’n effeithio’r cymalau a’r cyhyrau. Mae rhain yn cynnwys Rheumatoid Arthritis, Lupus, vasculitis ac amryw o wahanol fathau o arthritis llidiol. Mae’r mwyafrif o bobl sydd â’r cyflyrau yma o dan gofal riwmatolegydd.

Gall clefydau gwynegol hunanimiwn effeithio menywod yn ystod eu blynyddoedd atgenhediol. Mae hyn yn codi nifer o faterion pwysig ynglyn a gwybodaeth a chefnogaeth mae menywod yn derbyn pryd y mae nhw am geisio dechrau teulu.

Mae hyn yn cynnwys penderfynu os ydyn nhw am gael blant, pryd yw’r amser gorau iddyn nhw ddechrau teulu, beth sy’n digwydd os mae problemau wrth iddyn nhw ceisio dechrau teulu, pa meddyginiaeth sy’n ddiogel i’w ddefnyddio tra’n feichiog neu yn bwydo ar y fron, a sut i reoli symptomau fel poen a blinder yn ystod y cyfnod hwn.

Hoffwn ni ddarganfod beth mae menywod a gweithwyr iechyd proffesiynol yn meddwl am y gwybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael yn barod, a sut gall hyn gael ei wella.